David Rees AC
 Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

12 Rhagfyr 2017

Annwyl David

Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru

Gwyddoch fod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys ymgynghoriad ysgrifenedig a chlywed tystiolaeth lafar. Ar ddiwedd tymor yr haf, cytunwyd i gulhau cwmpas yr ymchwiliad i ganolbwyntio ar effaith Brexit ar hawliau dynol.

Yn ein cyfarfod ar 19 Hydref cawsom bapurau briffio ar y trafodaethau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd gan swyddogion Comisiwn y Cynulliad, a chlywsom safbwynt allanol gan Rebecca Hilsenrath, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Cytunwyd ar gyfres o egwyddorion craidd y credwn y dylid cydymffurfio â nhw yn ystod y broses Brexit mewn perthynas â hawliau dynol. Byddwn yn monitro cynnydd yn ôl yr egwyddorion hyn a byddwn yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda'n pwyllgorau seneddol cyfatebol ar draws y DU ar y materion hyn.

Yr egwyddorion craidd yw:

-     ni fydd unrhyw atchweliad i’r amddiffynfeydd cydraddoldeb a hawliau dynol sydd gennym yma ym Mhrydain ar ôl i ni adael yr UE;

-     dylai Cymru sefydlu mecanwaith ffurfiol i olrhain datblygiadau yn y dyfodol o ran hawliau dynol a chydraddoldeb yn yr UE, i sicrhau bod dinasyddion Cymru yn elwa o'r un lefel o ddiogelwch â dinasyddion yr UE; a

-     dylai Cymru barhau i fod yn arweinydd byd-eang ym maes hawliau dynol, ac ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i gau unrhyw fylchau o ran hawliau ac amddiffyniad os nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud hynny (lle bo modd).

Rydym o'r farn bod yn rhaid cadw'r Siarter Hawliau Sylfaenol mewn rhyw ffurf ar ôl ymadael â’r UE. Croesawn y datganiad a wnaed gan y Prif Weinidog ar 24 Hydref[1] a oedd yn cefnogi'r ymdrechion i sicrhau y bydd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn parhau i barchu'r Siarter ar ôl Brexit. Rydym hefyd yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyhoeddi'r dadansoddiad o sut y bydd hawliau'r Siarter yn cael eu diogelu ar ôl i'r DU ymadael â’r UE.

Rydym hefyd wedi ysgrifennu at y canlynol, i nodi'r egwyddorion craidd, ac ynghylch materion eraill sy'n ymwneud â'r gwaith hwn:

-     Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (cc i Carwyn Jones AC, Prif Weinidog; a Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid);

-     Mrs Maria Miller, Cadeirydd, Pwyllgor Menywod a Chydraddoldebau, Senedd y DU;

-     Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

-     Christina McKelvie MSP, Cynullydd, Pwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Senedd yr Alban;

-     Y Gwir Anrhydeddus Harriet Harman QC AS, Cadeirydd, y Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol.

Yn gywir

John Griffiths AC
Cadeirydd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.

 



[1] Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Cyfarfod Llawn, Eitem 6, paragraff 341, 24 Hydref 2017